cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth

Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan dimau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.

Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.

Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.

 

beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth

Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.

Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.

Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…

Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cefnogaeth wych. Mae ein gweithiwr cyswllt yn anhygoel; mae hi bob amser ar gael pan mae angen i ni siarad â hi, ac mae ganddi wir ddiddordeb yn ein lles, gan gynnig cefnogaeth bob amser. Rydyn ni hefyd yn ffodus nad oes llawer o newidiadau wedi bod yn y tîm, felly mae ’na barhad.

Aaron a Matte, gofalwyr maeth, Blaenau Gwent
Darllenwch Stori Aaron a Matte

cymuned faethu leol

Transfer to your local authority fostering service

Rydyn ni’n cael cefnogaeth gan yr ysgol, gweithiwr cymdeithasol gwych, ac mae gweithiwr cymdeithasol y plant wedi bod yn fendigedig. Rydyn ni’n tynnu ymlaen gyda nhw yn dda a byth yn teimlo ein bod ar ben ein hunain. Maen nhw’n ymddiried ynom ni ac yn gadael i ni wneud ein penderfyniadau ond bob un tro rydym wedi bod eu hangen, maent yno bob amser i’n cynghori a’n cefnogi.

Liz a Joe, gofalwyr maeth, Blaenau Gwent
Darllenwch Stori Liz a Joe

pan fo angen cefnogaeth

sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Ynys Môn i Gasnewydd, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.

Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.

  • O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
  • Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
  • Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.