canllaw i blant a phobl ifanc
pwy sy'n gwneud beth?
byddi di'n cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau dy helpu di. dyma eu rôl a'r hyn maen nhw'n ei wneud.
pobl sy'n gallu dy helpu
Mae yna lawer o bobl i siarad â nhw.
Prif rôl pawb sy’n gyfrifol am ofalu am blant a phobl ifanc yw eu cadw’n ddiogel rhag niwed.
gweithiwr cymdeithasol
Mae gweithiwr cymdeithasol yn rhywun sydd wedi cael ei hyfforddi i helpu plant a’u teuluoedd drwy gyfnodau anodd.
Bydd yn egluro pethau i ti ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn deall beth sy’n digwydd.
Gall fod yn syniad da rhoi gwybod i dy weithiwr cymdeithasol sut rwyt yn teimlo am fod mewn gofal maeth a gyda’ch gilydd, gallwch siarad am beth yw’r cynllun i ti.
Dyma’r person i fynd ato, i ofyn cwestiynau os nad yw dy ofalwr maeth yn gwybod yr ateb. Gall dy ofalwr maeth dy helpu i gysylltu â nhw, neu dylet gael eu rhif ffôn os wyt am gysylltu â nhw. Bydd dy weithiwr cymdeithasol hefyd yn ymweld â ti yn rheolaidd.
gofalwr maeth
Mae gofalwyr maeth yn cynnig lle diogel i ti aros, bywyd cartref sefydlog a threfn. Byddan nhw’n gwrando arnat ti. Byddan nhw’n dy gefnogi di bob dydd. Byddan nhw’n dod i dy adnabod di’n dda iawn.
eiriolwr
Oedolyn dibynadwy yw hwn a fydd yn dod i gwrdd â ti a gwrando ar dy farn.
Mae’r hawl gennyt i ofyn am eiriolwr ar unrhyw adeg.
Nod eiriolaeth yw grymuso pobl ifanc trwy roi llais iddynt rannu eu meddyliau a’u teimladau a sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Dydyn nhw ddim yn weithwyr cymdeithasol nac yn gweithio i’r gwasanaethau cymdeithasol, felly byddant yn siarad ar ran dy farn, a dy farn di yn unig.
Gallant helpu i gyfathrebu ag oedolion eraill, gan gynnwys dy weithiwr cymdeithasol a dy Swyddog Adolygu Annibynnol a chyfleu’r hyn rwyt ti eisiau, a sut rwyt yn teimlo pan fyddi di’n teimlo’n llai hyderus i wneud hynny. Gallant hefyd dy helpu i wneud cwyn neu wneud yn siŵr bod dy lais yn cael ei glywed mewn cyfarfodydd.
SAA (Swyddog Adolygu Annibynnol)
Weithiau bydd dy Swyddog Adolygu Annibynnol yn cael ei alw’n SAA neu IRO yn Saesneg.
Maent yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl oedolion yn gwneud yr hyn maen nhw’n dweud y byddant yn ei wneud.
Dylai dy Swyddog Adolygu Annibynnol siarad â ti cyn pob cyfarfod adolygu i wneud yn siŵr dy fod yn hapus o ran ble rwyt yn byw ac i wirio sut mae pethau’n mynd ym mhob rhan o dy fywyd, gan gynnwys yr ysgol, amser gyda dy deulu a phethau eraill rwyt yn eu gwneud sy’n bwysig i ti.
Galli di gysylltu â dy Swyddog Adolygu Annibynnol ar unrhyw adeg; bydd yn rhoi ei fanylion cyswllt i ti. Does dim rhaid i ti aros tan dy gyfarfod adolygu os rwyt am siarad am unrhyw beth neu roi gwybod am rywbeth sydd wedi digwydd neu sydd heb ddigwydd ers eich cyfarfod diwethaf.
gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol maethu
Mae gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol yn gweithio gyda’r teulu maeth, yn eu cefnogi a’u harwain.
Maen nhw yno i wneud yn siŵr bod pawb yn hapus, a bod pawb yn y cartref wedi ymsefydlu.
Bydd y gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol hefyd yn rhoi gwybod i dy ofalwyr am gyfarfodydd lle gallant glywed gan uwch reolwyr y cyngor am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth maethu, yn ogystal â chael gwahoddiad iddyn nhw a chi fynd i ddiwrnodau hwyl a gweithgareddau eraill gyda theuluoedd a phlant maeth eraill.
gweithiwr cymorth
Mae gweithiwr cymorth yn rhywun sy’n gweithio ochr yn ochr â’r gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol. Efallai y byddant yn dod i dy helpu a bod yno i dy gefnogi di a dy deulu maeth gydag unrhyw beth, fel diwrnodau allan neu ymweliadau.
ymgynghorydd personol
Bydd Ymgynghorydd Personol yn dy helpu i gynllunio ar gyfer dy ddyfodol a dy gefnogi i gyflawni dy nodau.
Bydd yn gweithio’n agos gyda ti pan fyddi di yn 15 neu 16 oed, gan wneud yn siŵr bod dy gynllun tuag at ddod yn oedolyn yn realistig ac yn parhau i ddiwallu dy anghenion.
Dylai dy Ymgynghorydd Personol sicrhau bod dy gynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd, sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnot, a chadw mewn cysylltiad â ti ar dy daith i ddod yn oedolyn.
athrawon a staff ysgol
Mae athrawon a staff ysgol yn dy helpu di i ddysgu, ond maen nhw hefyd yn bobl y gelli di siarad â nhw am unrhyw beth sy’n dy boeni.