sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Cymorth a Lwfans Maethu ym Mlaenau Gwent

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn darparu canllawiau a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

Foster Wales staff at a stand during torfaen pride event

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru Blaenau Gwent mae sicrhau bod plant yn derbyn popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu yn bwysig i ni, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Ym Mlaenau Gwent, taliad lwfans y plentyn yw £199-£248 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Rhoddir y rhan hon o’r taliad at yr unig ddiben o brynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad, neu bethau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Gwneir taliadau ffioedd ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Ym Mlaenau Gwent, mae’r elfen ffi yn amrywio o £25 i £125 yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Ym Mlaenau Gwent, rydym hefyd yn darparu lwfans arddegau ychwanegol o £50 i blant dros 13 oed, yn talu treuliau milltiroedd (45c y filltir), ac yn darparu ad-daliadau am offer hanfodol ar y dechrau.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Family

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Adult helping young boy with homework in kitchen

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

Cerdyn MAX

mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau ar draws y DU

Car icon

Seibiannau Byr

Hawl i 14 diwrnod o ofal seibiant (seibiant byr) y flwyddyn.

Allowances icon

Rhyddhad gofal cymwys

Gallwch dderbyn £18,140 o faethu cyn i chi orfod talu treth.

Coffee mug icon

Fy Nhîm Cymorth

Arweiniad, cymorth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth